1,2,3,4; 1,2,3,5,6,7,8; 1,2,4,5,6,7,8. Gweddio 'rwyf och'neidio yn brudd, Rhyfela yn deg am gael y dydd; Lleng sydd o fewn, llu sydd o faes, O'ffernol griw am faeddu'm gras. O nertha f'enaid gwan ei ffydd, 'Roi ofal arnat ti bob dydd; Heb flino 'nghylch amseroedd draw, Y rhai o bosib' byth ni ddaw. Gronyn o'th hedd a'th gariad drud, A etyb fy nghystuddiau gyd; Ond rhyfedd iawn y rhinwedd sy Mewn lleiad gradd o'r nefoedd fry. Ei ganmol bellach wnâf o hyd, Heb dewi mwy tra yn y byd; Dechreuais gân a bery'n hwy, Nag y ceir diwedd arni mwy. Pan oedd euogrwydd heb ddim hêdd Y'mron a'm gwasgu'n îs na'r bedd, A'm holl bechodau'n codi'n llu, Datguddiodd Duw ei Fab i mi. Cymmer fi, Iesu, fel yr wyf, Cuddia fi yn dy farwol glwyf; Can's dyna graig y gwnaf fy nyth, 'Does neb yn ofni yno byth. Dyma gyfarfod hyfryd iawn, Myfi yn llwm a'r Iesu'n llawn; Myfi yn dlawd heb feddu dim Ac yntau'n rhoddi pob peth im'. Gâd i mi dreulio nyddiau i gyd I edrych ar dy wyneb-pryd, Difyru f'oes o awr i awr, I garu fy Eiriolwr mawr.
- - - - - Gweddio'r wyf, och'neidio'n brudd, Rhyfela'n deg am gael y dydd; Lleng sydd o fewn, llu sydd o faes, Rhyw fyddin gref am faeddu'm gras. Pa bryd ca'i deimlo cariad rhad, I'm henaid gwan, a rhin y gwaed, I'm gwneyd yn gryf yn erbyn grym, Ac eithaf llid gelynion llym. Bryd ca'i'm glanhau o'm pen i'm traed, Mewn grisial fôr o werthfawr waed; Iacha fy mriwiau (dyfnion y'nt), A gefais yn mharadwys gynt. Bryd ca'i ddinystrio'r delwau'n llawn, Sy' am lechu dana'n ddirgel iawn; Llabyddio Agag yn ddi barch, A Dagon gwympo o flaen yr arch. F'adnabod wyt 'n hir cyn bod byd, Praw' 'nghalon a'm arenau i gyd; Fy Mhriod mwyn, rho allu mawr I gludo yn lân fy meiau lawr. Rho win ac olew yn fy mriw, Gwisg fi yn deg â delw Duw; Par'to fi i fyn'd i blith y llu Sy'n ddysglaer yn y llefoedd fry. dana'n :: dana'i yn
Tonau [MH 8888]:
gwelir: |
Praying I am groaning sadly, Battling finely for winning the day; A legion is within, a host is without, Of a hellish crew wanting to vanquish my grace. Oh strengthen the faith of my weak soul, To put care upon thee every day; Without grieving about the yonder times, Those which possibly may never come. A grain of thy peace and thy precious love, Shall answer all my afflictions; But very wonderful the merit is In the least degree of heaven above. Praise him henceforth I shall always do, Without being quiet any more while in the world; I began a song which shall long endure, Nor get an end to it any more. When there was guilt without any peace In my breast and pressing me lower than the grave, And all my sins rising as a host, God revealed his Son to me. Take me, Jesus, as I am, Hide me in thy mortal wound, Since that is the rock I will make my nest, There is no-one fearing there ever. Here is the very delightful meeting, I empty and Jesus full; I poor without possessing anything And he giving everything to me. Let me spend all my days To look upon thy countenance, Interest my lifespan from hour to hour, To love my great Intercessor.
- - - - - Praying I am, groaning sadly, Battling finely for getting the day; A legion is within, a host is without, Some strong army wanting to vanquish my grace. When shall I get to feel free love, For my weak soul, and the merit of the blood, To make me strong against a force, And the extreme anger of keen enemies? When shall I get cleansed from my head to my feet, In the crystal sea of precious blood; Heal my bruises (they are deep), That I got of old in paradise. When shall I get the destruction of idols fully, Which want to hide under me very secretly; The stoning of Agag dishonourably, And the falling of Dagon before the ark? Thou hast known me long before the world was, Test my heart and my kidneys altogether; My dear own one, give great power To take all my faults down. Put wine and oil on my wound, Cloth me finely with the image of God; Cause me to go amongst the host Who are shining in the places above. :: tr. 2015,20 Richard B Gillion |
|